Neidio i'r cynnwys

WEDI EI DDYLUNIO?

Croen Rhyfeddol y Pomelo

Croen Rhyfeddol y Pomelo

 Ffrwyth mawr sitrws â blas melys sy’n tyfu ar goeden yw’r pomelo. Er bod y ffrwythau weithiau’n disgyn mwy na 10 metr (30 troedfedd), dydyn nhw ddim yn cleisio. Sut mae croen y ffrwyth hwn mor dda am leddfu effaith taro’r ddaear?

 Ystyriwch: Mae ymchwilwyr wedi darganfod bod haenen wen fewnol yn y croen ar ffurf rhwydwaith o gelloedd a bylchau sy’n debyg i sbwng. Yn ddyfnach yn y croen mae mwy o le rhwng y celloedd, ac mae’r bylchau hyn yn llawn aer neu hylif. Pan fydd y ffrwyth yn disgyn a tharo’r ddaear, mae’r hylif yn gweithio fel clustog. Mae croen y pomelo yn cael ei gywasgu a’i dynhau ac felly yn dal yr ergyd yn lle torri.

 Mae gwyddonwyr yn arbrofi gyda math o sbwng siocleddfol sydd wedi ei wneud o fetel. Mae wedi ei ddylunio i fod yn debyg i strwythur croen y pomelo. Y gred yw y byddai deunydd o’r fath yn ddefnyddiol mewn helmedau i feicwyr, mewn paneli sy’n diogelu cerbydau, ac i amddiffyn gorsafoedd gofod rhag meteoroidau.

 Beth rydych chi’n ei feddwl? Ai esblygu a wnaeth croen rhyfeddol y pomelo? Neu a gafodd ei ddylunio?