Neidio i'r cynnwys

WEDI EI DDYLUNIO?

Braich Ryfeddol yr Octopws

Braich Ryfeddol yr Octopws

 Mae peirianwyr ym maes roboteg yn datblygu offer i helpu llawfeddygon i weithio mewn llefydd cyfyng yn y corff, gan ddefnyddio technegau llai ymyrrol. Mae un newyddbeth yn y maes wedi ei ysbrydoli gan fraich ystwyth, neu dentacl, yr octopws.

 Ystyriwch: Mae’r octopws yn gallu estyn a symud pob un o’i wyth braich ystwyth i gydio mewn pethau, eu dal, a’u gwasgu, hyd yn oed mewn llefydd cyfyng iawn. Gall nid yn unig blygu ei freichiau mewn unrhyw gyfeiriad, ond hefyd gall sythu rhannau o’i freichiau a’u gwneud yn anystwyth yn ôl yr angen.

 Mae ymchwilwyr yn credu y byddai braich robotig, sydd yr un mor feddal a hyblyg, yn hynod o ddefnyddiol mewn llawdriniaethau lleiaf ymyrrol. Byddai offer o’r fath yn gwneud llawdriniaethau yn bosib i gleifion a fyddai fel arall yn gorfod cael llawdriniaethau llawer mwy cymhleth.

 Gwelwch freichiau ystwyth yr octopws ar waith

 Mae braich robotig o’r fath, sy’n 135-milimetr (5 modfedd) o hyd, eisoes wedi ei datblygu, ac yn cael ei defnyddio mewn llawdriniaethau sy’n efelychu rhai go iawn. Gall un rhan o’r fraich godi a dal organau meddal heb eu niweidio, tra bod rhan arall o’r fraich yn gwneud y llawdriniaeth ei hun. Yn ôl Dr Tommaso Ranzani, sy’n aelod o’r tîm a ddatblygodd yr offer: “Credwn mai hwn fydd y cyntaf o nifer o fersiynau newydd a gwell gyda nodweddion mwy soffistigedig.”

Byddai braich robotig, sy’n feddal ac yn hyblyg, yn hynod o ddefnyddiol mewn llawdriniaethau

 Beth rydych chi’n ei feddwl? Ai esblygu a wnaeth braich yr octopws? Neu a gafodd ei dylunio?