Neidio i'r cynnwys

Ydy Duw yn Rym Dideimlad?

Ydy Duw yn Rym Dideimlad?

Ateb y Beibl

 Mae grym anghymharol Duw ar waith drwy’r bydysawd. Wrth gyfeirio at y ffordd y creodd biliynau di-rif o sêr, dywed y Beibl: “Edrychwch i fyny ar y sêr! Pwy wnaeth eu creu nhw? Pwy sy’n eu galw nhw allan bob yn un? Pwy sy’n galw pob un wrth ei enw? Mae e mor gryf ac mor anhygoel o nerthol—does dim un ohonyn nhw ar goll.”—Eseia 40:25, 26.

 Ond mae Duw yn llawer mwy na grym pwerus. Mae’r Beibl yn dweud bod ganddo deimladau, fel cariad a chasineb. (Salm 11:5; Ioan 3:16) Hefyd, mae’n datgelu y gall ymddygiad dynion effeithio ar emosiynau Duw.—Salm 78:40, 41.