Neidio i'r cynnwys

Beth Yw’r Anghenfil Ysgarlad yn Datguddiad Pennod 17?

Beth Yw’r Anghenfil Ysgarlad yn Datguddiad Pennod 17?

Ateb y Beibl

 Mae’r anghenfil ysgarlad, sy’n cael ei ddisgrifio yn Datguddiad pennod 17, yn symbol o’r gyfundrefn sy’n bwriadu uno a chynrychioli cenhedloedd y byd. Cynghrair y Cenhedloedd oedd hyn i gychwyn, ond heddiw y Cenhedloedd Unedig yw’r gyfundrefn hon.

Sut i adnabod yr anghenfil ysgarlad

  1.   Corff gwleidyddol. Mae gan yr anghenfil ysgarlad “saith pen” sy’n cynrychioli “saith bryn” a “saith brenin,” neu lywodraeth sy’n rheoli. (Datguddiad 17:​9, 10) Mae’r Beibl yn defnyddio mynyddoedd neu fryniau, ac angenfilod, i gynrychioli llywodraethau.​—Jeremeia 51:24, 25; Daniel 2:​44, 45; 7:​17, 23.

  2.   Tebygrwydd i’r system wleidyddol fyd-eang. Mae’r anghenfil ysgarlad yn debyg i’r anghenfil seithben yn Datguddiad pennod 13, sy’n cynrychioli’r system wleidyddol fyd-eang. Mae gan y ddau anghenfil saith pen, deg corn, ac enwau cableddus. (Datguddiad 13:1; 17:3) Mae’r pethau hyn yn rhy debyg i fod yn gyd-ddigwyddiad. Mae’r anghenfil ysgarlad yn ddelw, neu’n ddarlun, o’r system wleidyddol fyd-eang.​—Datguddiad 13:15.

  3.   Grym oddi wrth lywodraethau eraill. Mae’r anghenfil ysgarlad yn deillio o lywodraethau eraill sy’n rheoli.​—Datguddiad 17:11, Beibl Cysegr-lân, 17.

  4.   Yn gyswllt â chrefydd. Mae Babilon Fawr, sef holl gau grefyddau’r byd, yn eistedd ar yr anghenfil ysgarlad, sy’n dangos bod grwpiau crefyddol yn dylanwadu ar yr anghenfil.​—Datguddiad 17:​3-5.

  5.   Dwyn gwarth ar Dduw. Mae’r anghenfil yn llawn “enwau cableddus.”​—Datguddiad 17:3.

  6.   Yn anweithredol am gyfnod. Byddai’r anghenfil ysgarlad yn y “pydew diwaelod,” a neu’n anweithredol, am gyfnod, ond wedyn byddai’n codi eto.​—Datguddiad 17:8.

Proffwydoliaeth y Beibl yn cael ei chyflawni

 Ystyriwch sut mae’r Cenhedloedd Unedig, a’i ragflaenydd, Cynghrair y Cenhedloedd, wedi cyflawni proffwydoliaeth y Beibl am yr anghenfil ysgarlad.

  1.   Corff gwleidyddol. Mae’r Cenhedloedd Unedig yn cefnogi’r system wleidyddol drwy gadw “ei holl Aelodau yn sofran ac yn gydradd.” b

  2.   Tebygrwydd i’r system wleidyddol fyd-eang. Yn 2011, cyrhaeddodd y Cenhedloedd Unedig 193 aelod-wladwriaeth. Felly, mae’n honni cynrychioli’r mwyafrif helaeth o genhedloedd a phobloedd y byd.

  3.   Grym oddi wrth lywodraethau eraill. Mae’r Cenhedloedd Unedig yn dibynnu ar ei aelodau, a does ganddo ond y grym a’r awdurdod maen nhw’n eu caniatáu iddo.

  4.   Yn gyswllt â chrefydd. Mae Cynghrair y Cenhedloedd a’r Cenhedloedd Unedig ill dau wedi derbyn cefnogaeth gyson gan grefyddau’r byd. c

  5.   Dwyn gwarth ar Dduw. Cafodd y Cenhedloedd Unedig ei sefydlu er mwyn “cynnal heddwch a diogelwch rhyngwladol.” d Er bod y nod hwn yn ymddangos yn un canmoladwy, y gwir yw, mae’r CU yn dwyn gwarth ar Dduw drwy honni gwneud yr hyn mae Duw wedi dweud y gall ei Deyrnas ef yn unig ei gyflawni.​—Salm 46:9; Daniel 2:​44.

  6.   Yn anweithredol am gyfnod. Doedd Cynghrair y Cenhedloedd, a gafodd ei ffurfio yn fuan ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf i gadw heddwch, ddim yn gallu atal gelyniaeth ryngwladol. Daeth yn anweithredol pan gychwynnodd yr Ail Ryfel Byd ym 1939. Ym 1945, ar ôl i’r Ail Ryfel Byd orffen, cafodd y Cenhedloedd Unedig ei ffurfio. Mae ei fwriadau, ei ddulliau, a’i strwythur yn debyg iawn i rai Cynghrair y Cenhedloedd.

a Yn ôl Vine’s Expository Dictionary of Old and New Testament Words, mae’r gair Groeg sy’n cael ei gyfieithu “pydew diwaelod” yn disgrifio “dyfnder na ellir ei fesur.” Yn y Beibl, mae’n cyfeirio at le neu gyflwr o gaethiwed ac anweithrededd llwyr.

b Gweler Erthygl 2 Siarter y Cenhedloedd Unedig.

c Er enghraifft, ym 1918, cyhoeddodd un cyngor oedd yn cynrychioli dwsinau o enwadau Protestannaidd yn America y byddai’r Gynghrair yn “fynegiant gwleidyddol o Deyrnas Dduw ar y ddaear.” Ym 1965, daeth cynrychiolwyr Bwdaeth, Catholigiaeth, Uniongred y Dwyrain, Hindŵaeth, Islam, Iddewiaeth, a Phrotestaniaeth at ei gilydd yn San Francisco i gefnogi’r Cenhedloedd Unedig a gweddïo drostyn nhw. Ac ym 1979, mynegodd y Pab John Paul II ei obaith y byddai’r CU “yn parhau fel prif fforwm heddwch a chyfiawnder am byth.”

d Gweler Erthygl 1 Siarter y Cenhedloedd Unedig.